Darlithydd mewn Actio
Caerfyrddin
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn olrhain ei threftadaeth yn ôl i’r brifysgol gyntaf yng Nghymru, gan dderbyn ei Siarter Frenhinol yn 1828, ac mae’n fraint cael Ei Fawrhydi’r Brenin Charles III yn Noddwr Brenhinol.
Bellach mae PCYDDS yn addysgu dros 16,000 o fyfyrwyr ar draws ei chwe champws yn y DU; pedwar yng Nghymru a dau yn Lloegr. Mae ganddi bartneriaethau addysgol rhyngwladol hirdymor yn Ewrop, Tsieina, Malaysia, UDA a mannau eraill.
Ein nod yw trawsnewid addysg, ac felly trawsnewid bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym eisoes wedi’n cydnabod am ddarparu profiad myfyrwyr rhagorol:
• 1af yng Nghymru a chydradd 3ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Times Higher Education, Gorffennaf 2024)
• 1af yng Nghymru am 7 pwnc ac yn y 10 uchaf yn y DU am 3 phwnc (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024)
Daw ein llwyddiant yn sgil ymrwymiad, sgiliau, gwybodaeth, a gallu ein pobl yn gweithio gyda’i gilydd. Rydym nawr yn adeiladu ar y diwylliant a darpariaeth gadarn hon i ddod yn ddarparwr blaenllaw ar gyfer addysg uwch hygyrch.
- Y RÔL -
Bydd gofyn i’r deiliad swydd lunio amrywiaeth o ddeunyddiau addysgu ac asesu, yn cwmpasu nifer o fodylau a meysydd pwnc o fewn portffolio’r Diwydiannau Dylunio a Pherfformio. Bydd y deiliad swydd yn addysgu mewn amrywiaeth o amgylcheddau dysgu gwahanol ac yn defnyddio amrywiaeth o arddulliau a dulliau addysgu, yn cynnwys pob lefel o astudiaeth israddedig a, lle bo hynny’n briodol, astudiaeth ôl-raddedig. Bydd y deiliad swydd yn cynnig adborth a chymorth academaidd a bugeiliol i fyfyrwyr i’r safonau proffesiynol uchaf gyda golwg ar wella’r profiad myfyrwyr yn barhaus. Bydd y deiliad swydd yn ymgymryd â chynllunio, ysgolheictod, ymchwil, hyfforddiant neu waith prosiect, naill ai’n unigol neu o fewn tîm, i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus ac i wella proffil y Ddisgyblaeth Academaidd, yr Athrofa a’r Brifysgol. Bydd y deiliad swydd yn gwneud cyfraniad positif i weithgareddau’r Ddisgyblaeth Academaidd o ddydd i ddydd a allai gwmpasu meysydd fel goruchwylio traethodau hir, recriwtio myfyrwyr, gweithgareddau marchnata, seminarau a gweithdai ymchwil, hyfforddi staff a datblygu proffesiynol.
Bydd y deiliaid swydd yn datblygu gweithgareddau gweinyddol ac yn gwneud cyfraniad positif i weithgareddau beunyddiol y Campws.
Gweler y disgrifiad swydd am fanylion ynghylch y meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl hon.
- GWYBODAETH YCHWANEGOL -
- 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gwyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ar gau
- I gael gwybodaeth am ein buddion i staff, copïwch a gludo’r ddolen hon i mewn i’ch porwr: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/amdanom/swyddi-gweithio-yn-y-drindod-dewi-sant
- Gallai’r swydd hon fod yn gymwys am nawdd yn amodol ar ofynion trothwy cyflog y Swyddfa Gartref https://www.gov.uk/skilled-worker-visa/your-job (graddfa 5 ac uwch)
- Nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. O’r herwydd, caiff eich cais ei asesu ar sail eich cais a’ch datganiad ategol
Dyddiad cau: 6 Mehefin 2025, 11:59pm
Dyddiad cyfweld: I’w gadarnhau