Tiwtor Iaith Gymraeg a Swyddog Prosiectau
Caerfyrddin
- Y RÔL –
Mae’r Brifysgol yn dymuno penodi dau Diwtor Iaith Gymraeg a Swyddog Prosiectau am gyfnod i hybu'r Gymraeg drwy addysgu Cymraeg i'r gweithlu addysg ar amrywiol lefelau ieithyddol naill ai ar-lein neu mewn lleoliadau ac ysgolion, yn ogystal â chynllunio, cydlynu a rheoli prosiectau addysgol y Ganolfan.
Bydd deiliaid y swyddi yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglenni dysgu Cymraeg ar amrywiol lefelau ieithyddol, yn cefnogi dysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac yn monitro eu cynnydd. Ar yr un pryd, byddant yn gyfrifol am gydlynu prosiectau a mentrau addysgol o'r cam cynllunio hyd at eu cyflawni, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau ansawdd, cydymffurfiaeth a chyflawniad llwyddiannus.
Mae dwy swydd ac, ar gyfer o leiaf un ohonynt, rydym yn edrych am arbenigedd a phrofiad addysgu yn y sector Cynradd gyda phrofiad penodol o weithredu’r adnodd Tric a chlic ar lawr dosbarth.
Bydd y swyddi yn cyfrannu at ddatblygu enw da Canolfan Gwasanaethau Cymraeg, Peniarth a Rhagoriaith fel canolfannau rhagoriaeth ym maes addysg Gymraeg, dysgu Cymraeg a datblygu adnoddau addysgol
- AMDANOCH CHI -
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl Tiwtor Iaith Gymraeg a Swyddog Prosiectau, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol
- Profiad o addysgu’r Gymraeg ar bob lefel
- Profiad o addysgu’r Gymraeg ar amrywiol lefelau
- Profiad blaenorol o weithio oddi fewn i’r sector addysg yng Nghymru
- Profiad o weithredu cynllun Tric a chlic**
- Profiad blaenorol o reoli, gweithredu a monitro prosiectau
- Profiad o ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- Y gallu i addysgu a hwyluso dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch restr lawn o feini prawf hanfodol a dymunol 'Manyleb y Person'.
- BUDDIANNAU -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddiannau gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddiannau i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 5ed o Tachwedd
