Darlithydd mewn Dylunio Cyfathrebu Gweledol
Gweler Disgrifiad Swydd
AMDANOM NI-
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn olrhain ei threftadaeth yn ôl i’r brifysgol gyntaf yng Nghymru, gan dderbyn ei Siarter Frenhinol yn 1828 ac mae’n fraint cael Ei Fawrhydi’r Brenin Charles III yn Noddwr Brenhinol.
Bellach mae PCYDDS yn addysgu dros 16,000 o fyfyrwyr ar draws ei chwe champws yn y DU; pedwar yng Nghymru a dau yn Lloegr. Mae ganddi bartneriaethau addysgol rhyngwladol hirdymor yn Ewrop, Tsieina, Malaysia, UDA a mannau eraill.
Ein nod yw trawsnewid addysg, ac felly trawsnewid bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym eisoes wedi’n cydnabod am ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr:
• 1af yng Nghymru ac 2il yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Times Higher Education, Gorffennaf 2025)
Daw ein llwyddiant yn sgil ymrwymiad, sgiliau, gwybodaeth, a gallu ein pobl yn gweithio gyda’i gilydd. Rydym nawr yn adeiladu ar y diwylliant a’r ddarpariaeth gadarn hon i ddod yn ddarparwr blaenllaw ar gyfer addysg uwch hygyrch.
-Y RÔL –
Dyma gyfle unigryw a chyffrous i berson â chymwysterau addas sydd â chefndir mewn Cyfathrebu Gweledol a Dylunio i ymuno â thîm o staff academaidd sy’n darparu dysgu ac addysgu yn ein sefydliadau partner yn Tsieina. Wedi’ch lleoli i ddechrau yn Lanzhou, ond gyda’r disgwyliad i addysgu yn unrhyw un o’n tri sefydliad partner yn Tsieina (Prifysgol Lanzhou; Prifysgol Fujan Jiangxia; a Phrifysgol Technoleg Wuhan), bydd gofyn i chi gynhyrchu casgliad o fodylau yn y maes pwnc Cyfathrebu Gweledol a Dylunio. Byddwch yn treulio cyfran sylweddol o’ch amser gwaith yn Tsieina, hyd at uchafswm o 18 wythnos fesul semester – lle cyflwynir yr holl addysgu yn Saesneg. Mae’r cyfnodau hyn yn amodol ar reoliadau fisa Tsieina a mynediad i Tsieina at ddibenion ymgymryd â gofynion llawn y rôl.
Bydd gofyn gweithio yn y DU hefyd a gall hyn fod yn gyfuniad o waith ar-lein ac wyneb yn wyneb.